Scroll down for English …

Natur am Byth!

10 Cyfle Preswyliad i Artistiaid Cyswllt

Y gyllideb fesul preswyliad: £15,000 am 10 mis, rhwng mis Mehefin 2024 a mis Mawrth 2025
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 5pm ar 24 Mai 2024
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid, gwneuthurwyr, dylunwyr a phobl greadigol eraill sydd â dull cydweithredol a chyfranogol o weithio, a diddordeb mewn cyfathrebu materion ecolegol ehangach, i ymgymryd â phreswyliadau artist cyswllt fel rhan o Raglen Ymgysylltu drwy’r Celfyddydau Natur am Byth, sef prosiect cydweithredol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), naw elusen amgylcheddol, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Addo, ac fe’i hariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Natur am Byth yw prosiect Adferiad Gwyrdd blaenllaw Cymru, y mae naw elusen amgylcheddol (Y Gadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod, Buglife, yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, Y Gadwraeth Glöynnod Byw, Y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent a Plantlife) wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) drwyddo i ddarparu’r rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf yng Nghymru. Mae enw’r rhaglen yn cyfeirio at alwad Cymru i uno – Cymru am Byth!

Nod y rhaglen o breswyliadau artist yw cyflawni yn erbyn trydydd llinyn rhaglen Natur am Byth:

Meddwl o’r newydd am y ffordd yr ydym yn ystyried rhywogaethau, a fydd yn targedu’n benodol bobl sydd â llesiant corfforol a/neu feddyliol isel, gan gynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt fel hyn gan bandemig COVID-19. Mae gan natur allu anhygoel, sydd wedi’i ddogfennu’n dda, i’n helpu i wella ac ymgeleddu ein teimladau o lesiant corfforol a meddyliol. Bydd y llinyn hwn yn defnyddio gweithgareddau creadigol a phrosiectau bach i weithio gyda’r gynulleidfa hon i adrodd straeon hynod ddiddorol am ein rhywogaethau mwyaf agored i niwed drwy’r celfyddydau a diwylliant.

Bydd y canlynol yn cael ei wneud yn ystod pob preswyliad:

  • Archwilio’r rôl y mae prosesau artistig yn ei chwarae o ran meddwl o’r newydd am y ffordd yr ydym yn ystyried rhywogaethau – yn enwedig ein rhywogaethau mwyaf agored i niwed, sydd yn aml yn fach o ran eu maint ac yn ddinod ar yr olwg gyntaf;
  • Defnyddio strategaethau a gweithgareddau creadigol i ymgysylltu â phobl, yn benodol y bobl sydd â llesiant corfforol a/neu feddyliol isel (gan gynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt fel hyn gan bandemig COVID-19) wrth fyfyrio ar y materion sy’n effeithio ar y rhywogaeth ym mhob un o’r safleoedd prosiect ledled Cymru, gyda golwg ar wella a diogelu llesiant a chynefinoedd y rhywogaethau a’r cyfranogwyr fel ei gilydd.
  • Creu archif ar-lein o’r gweithiau celf digidol a gynhyrchir drwy’r preswyliadau sy’n helpu i adrodd i gynulleidfa ehangach straeon hynod ddiddorol am ein rhywogaethau mwyaf agored i niwed, ac sy’n adlewyrchu cyd-destun cenedlaethol rhaglen Natur am Byth.

 

Caiff artistiaid wneud cais am hyd at ddau o’r cyfleoedd a rhaid iddynt nodi pa rai y maent yn gwneud cais amdanynt yn eu cais e-bost. Mae angen gwneud ceisiadau ar wahân ar gyfer pob cyfle y gwneir cais amdano.

 

Cymorth Mynediad

Rydym wedi ymrwymo i wneud y cyfleoedd hyn mor hygyrch â phosibl o fewn cwmpas y rhaglen.

Nid oes modd i ni gynnig Cymorth Mynediad ar gyfer cwblhau a chyflwyno ceisiadau ond rydym yn argymell i ddarpar ymgeiswyr sydd ag Anghenion Mynediad gysylltu â Celfyddydau Anabledd Cymru (https://disabilityarts.cymru/) am gyngor, neu ystyried gwneud cais i gynllun Mynediad i Waith y Llywodraeth, sy’n agored i weithwyr llawrydd a hunangyflogedig –https://www.gov.uk/access-to-work. Mae gan Disability Arts ganllaw ar eu gwefan ar y cynllun Mynediad i Waith ar gyfer Sector y Celfyddydau a Diwylliant –https://disabilityarts.online/atw/.  Mae Busnes Cymru hefyd ar gael i helpu unigolion i gwblhau cynigion tendro.Mynnwch Gymorth | Busnes Cymru. Os oes angen y ffurflen gais arnoch mewn ffont mawr neu braille, yna gellir darparu hyn i chi.

Fodd bynnag, mae modd i ni gynnig Cymorth Mynediad ar gyfer y cyfweliad ac ar gyfer cyflwyno’r prosiect. Bydd hyn yn cael ei drafod ag ymgeiswyr unigol pan gânt eu gwahodd i gyfweliad.

 

Mae’r briffiau a manylion sut i wneud cais am breswyliad artist cyswllt ar gael isod:

Briff 1: Rhywogaethau Dirgelaidd: Prosiect Golau a Sain

Wedi’i leoli yn Abertawe fel rhan o’r prosiectau canlynol – Arfordir, Tir Comin a Chymunedau Bae Abertawe; Gweithredu dros Wiberod; Sêr y Nos, Bae Abertawe. Fe’i harweinir gan Buglife a’r Gadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid; Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod; a’r Gadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (yn y drefn honno). Yn ystod y preswyliad hwn  bydd yr artist yn ymchwilio i’n rhywogaethau targed a’u cynefinoedd, gan ystyried eu perthynas â golau a sain ac yn archwilio’r cyferbyniadau rhwng golau a thywyllwch / cysgod a golau naturiol / artiffisial, gan daflu goleuni ar fydoedd cudd, peryglon a chyfleoedd i’n rhywogaethau.

Mae’r briff llawn a manylion sut i wneud cais ar gael yma:

BRIFF_1_AR_GYFER_Y_PRESWYLIAD_I_ARTISTIAID_CYSWLLT

Briff 2: Rhywogaethau Dirgelaidd: Prosiect Bywyd ar yr Ymylon

Wedi’i leoli yn Abertawe fel rhan o’r prosiectau canlynol – Arfordir, Tir Comin a Chymunedau Bae Abertawe; Gweithredu dros Wiberod; Sêr y Nos, Bae Abertawe. Fe’i harweinir gan Buglife a’r Gadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid; Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod; a’r Gadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (yn y drefn honno). Yn ystod y preswyliad hwn bydd yr artist yn archwilio faint o’r rhywogaethau a dargedir gan y prosiectau Rhywogaethau Dirgelaidd sy’n byw ar yr ymylon, rhwng tirweddau trefol a gwledig / naturiol ac oddi mewn iddynt – a beth mae hyn yn ei olygu i’r rhywogaethau hyn, eu cynefinoedd o dacsonau amrywiol, a’r cymunedau sy’n byw ochr yn ochr â nhw.

Mae’r briff llawn a manylion sut i wneud cais ar gael yma:

BRIFF_2_AR_GYFER_Y_PRESWYLIAD_I_ARTISTIAID_CYSWLLT

Briff 3:  Prosiect Tlysau Mynydd Eryri

Gan ganolbwyntio ar Eryri gyda Plantlife, nod y preswyliad hwn yw rhoi ffocws manwl ar rywogaethau alpaidd i ffocws craff fel trysorau enigmatig ac archwilio’r berthynas rhwng y mynyddoedd, eu rhywogaethau, a’r cymunedau amrywiol sy’n byw ynddynt neu o fewn cyrraedd iddynt, yn enwedig pobl ifanc, pobl o’r gymuned LHDTCRhA+ a/neu’r rhai sy’n gweithio yn Ysbyty Gwynedd – sef y prif ysbyty ym Mangor – ac yn ymweld ag ef i archwilio sut mae mynediad i’r amgylchedd mynyddig, neu ddiffyg mynediad iddo, yn gallu effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol.  Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae’r briff llawn a manylion sut i wneud cais ar gael yma:

BRIFF_3_AR_GYFER_Y_PRESWYLIAD_I_ARTISTIAID_CYSWLLT

Briff 4: Prosiect Rhywogaethau Symbolaidd

Wedi’i leoli mewn lleoliadau yng ngogledd-orllewin Cymru, gyda’r RSPB, ystod y preswyliad hwn bydd yr artist yn ennyn diddordeb plant a phobl ifanc mewn archwilio rhai o’r 17 rhywogaeth sydd mewn perygl, a’u cynefinoedd, ar draws Penrhyn Llŷn ac Ynys Môn. Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae’r briff llawn a manylion sut i wneud cais ar gael yma:

BRIFF_4_AR_GYFER_Y_PRESWYLIAD_I_ARTISTIAID_CYSWLLT

Briff 5: Dŵr yw ein Tirwedd: Prosiect Rhyng-gysylltiadau ar draws Tir a Môr

Wedi’i leoli yn ardal Pen Llŷn a’r Sarnau gyda Chyfarwyddiaeth yr Amgylchedd Cyngor Gwynedd a’r Gymdeithas Cadwraeth Forol, nod y preswyliad hwn yw annog pobl i feddwl am y berthynas rhwng y tir a’r môr a sut mae eu hymddygiad yn effeithio ar ansawdd dŵr ac, yn ei dro, ar gynefinoedd rhywogaethau morol sydd mewn perygl. Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae’r briff llawn a manylion sut i wneud cais ar gael yma:

BRIFF_5_AR_GYFER_Y_PRESWYLIAD_I_ARTISTIAID_CYSWLLT

Briff 6: Prosiect Bryoffytau Bendigedig

Wedi’i leoli gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Plantlife mewn dau leoliad ym Mhowys – yng ngogledd y sir (yn y Drenewydd a’r cyffiniau) ac yn ne’r sir (yn Rhaeadr a’r cyffiniau). Nod y preswyliad hwn yw annog pobl i feddwl o’r newydd am y ffordd yr ydym yn ystyried rhywogaethau sy’n fach o ran eu maint ac yn ddi-nod ar yr olwg gyntaf, gan amlygu pwysigrwydd bryoffytau o fewn ein hecosystem wrth hefyd gadw a gwarchod y safleoedd lle mae’r rhywogaethau prin hyn yn ffynnu ynddynt, er mwyn cynorthwyo adferiad drwy atebion arloesol, trawsnewidiol a chreadigol sy’n cynnwys pobl leol yn y sgyrsiau hollbwysig hyn.

Mae’r briff llawn a manylion sut i wneud cais ar gael yma:

BRIFF_6_AR_GYFER_Y_PRESWYLIAD_I_ARTISTIAID_CYSWLLT

Briff 7: Prosiect yr Ystlum Du

Wedi’i leoli gyda Phrosiect yr Ystlum Du yn Sir Benfro, gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent, nod y preswyliad hwn yw newid y canfyddiadau o ddeunydd sydd wedi gwywo, wedi pydru neu wedi’i ddifrodi fel rhywbeth y dylid ei glirio, ac amlygu ei botensial i greu cynefinoedd sy’n hybu ac yn cynnal bywyd, yn arbennig yr ystlum du.

Mae’r briff llawn a manylion sut i wneud cais ar gael yma: BRIFF_7_AR_GYFER_Y_PRESWYLIAD_I_ARTISTIAID_CYSWLLT

Briff 8: Prosiect Pryf y Cerrig

Wedi’i leoli mewn lleoliadau yn Wrecsam a’r cyffiniau yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gyda Buglife, nod y preswyliad hwn yw dod â bywyd tanddwr na welir yn aml ‘i’r wyneb’, gan archwilio ffyrdd y gall pobl uniaethu â stori’r pryf dyfrol bach, sef pryf y cerrig, a thynnu sylw at sut y gallwn gael effaith gadarnhaol ar y cyd ar adfer afonydd a gwella ansawdd dŵr er mwyn achub y creaduriaid hyn a chreaduriaid eraill. Mae’r gallu i gyflwyno’r prosiect yn Gymraeg yn ddymunol.

Mae’r briff llawn a manylion sut i wneud cais ar gael yma: 

BRIFF_8_AR_GYFER_Y_PRESWYLIAD_I_ARTISTIAID_CYSWLLT

Briff 9: Prosiect y Fritheg Frown

Wedi’i leoli gyda Phrosiect y Fritheg Frown, gan weithio gyda’r Gadwraeth Glöynnod Byw, yn Ogwr ac Old Castle Downs a Chwm Alun, Bro Morgannwg, nod y preswyliad hwn yw archwilio straeon a’r defnydd o’r safle gan wahanol grwpiau defnyddwyr yn y gorffennol ac ar hyn o bryd a chodi ymwybyddiaeth o effaith ymddygiad dynol ar y safle, y fritheg frown a’i chynefin. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn archwilio hanes llafar y cymunedau ffermio hirsefydlog yn yr ardal a chysylltu ag amrywiaeth ehangach o bobl a’u hannog i fynd i’r safle er eu llesiant, yn enwedig y rhai â phryderon iechyd meddwl a grwpiau sy’n anos eu cyrraedd.

Mae’r briff llawn a manylion sut i wneud cais ar gael yma:

BRIFF_9_AR_GYFER_Y_PRESWYLIAD_I_ARTISTIAID_CYSWLLT

Briff 10: Prosiect y Gardwenynen Feinlais

Gan weithio ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, yn nhair canolfan poblogaeth y gardwenynen feinlais ac yn agos iddynt yn Sir Benfro, Gwastadeddau Gwent, a Chynffig, a Phen-y-bont ar Ogwr, nod y cyfnod preswyl hwn yw annog pobl i feddwl am bwysigrwydd cynefinoedd llawn blodau cysylltiedig er budd peillwyr fel y gardwenynen feinlais a phobl.

Mae’r briff llawn a manylion sut i wneud cais ar gael yma: 

BRIFF_10_AR_GYFER_Y_PRESWYLIAD_I_ARTISTIAID_CYSWLLT

 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cyfle hwn, cysylltwch â Sarah Pace yn Swyddfa De Cymru Addo yn sarah@addocreative.com neu Tracy Simpson yn Swyddfa Gogledd Cymru Addo yn tracy@addocreative.com 

 


 

Natur am Byth!

10 Associate Artist Residency Opportunities

Budget per Residency: £15,000 for 10 months, June 2024 –March 2025
Application Deadline: 5pm on 24 May 2024
We are inviting applications from artists, makers, designers and other creatives with a collaborative and participatory approach and an interest in communicating wider ecological issues to undertake Associate Artist Residencies as part of the Natur am Byth Arts Engagement Programme, a collaborative project between Natural Resources Wales (NRW), nine environmental charities, Public Health Wales (PHW) and Addo, and is funded by National Lottery Heritage Fund and Arts Council of Wales.

Natur am Byth is Wales’ flagship Green Recovery project, through which nine environmental charities (Amphibian and Reptile Conservation, Bat Conservation Trust, Buglife, Bumblebee Conservation Trust, Butterfly Conservation, Marine Conservation Society, RSPB, The Vincent Wildlife Trust and Plantlife) have partnered with Natural Resources Wales (NRW) to deliver Wales’ largest natural heritage and outreach programme. The programme name refers to the Welsh rallying cry – Cymru am Byth! (Wales Forever!) and means Nature Forever.

The aim of the artist residency programme is to deliver against strand three of the Natur am Byth programme:

Re-thinking the way we see species, which will specifically target those with low physical and/or mental well-being, including those impacted in this way by the COVID-19 pandemic. Nature has an amazing, well-documented ability to help us to heal and lift our feelings of physical and mental well-being. This strand will use creative activities and mini projects to work with this audience to tell the fascinating stories of our most vulnerable species through arts and culture.

The residencies will:

  • Explore the role of artistic processes in re-thinking the way we see species – particularly our most vulnerable, which are often small in scale and unremarkable at first glance;
  • Use creative strategies and activities to engage people, specifically with low physical and/or mental well-being (including those impacted in this way by the COVID-19 pandemic) in reflecting on the issues impacting the species at each of the project sites across Wales, with a view to enhancing and protecting the wellbeing and habitats of both species and participants.
  • Create an online archive of digital artworks produced through the residencies that helps to tell the fascinating stories of our most vulnerable species to a wider audience and reflects the national context of the Natur am Byth programme.

 

Artists may apply for up to two of the opportunities and must specify which ones they are applying for in their application email.  Separate applications are required for each opportunity applied for.

 

Access Support

We are committed to making these opportunities as accessible as possible within the scope of the programme.

We are unable to offer Access Support with completing and submitting applications but recommend potential applicants with Access Needs contact Disability Arts Cymru (https://disabilityarts.cymru/) for advice or consider applying to the Government’s Access to Work scheme, which is open to freelancers and self-employed people – https://www.gov.uk/access-to-work. Disability Arts have a guide to the Access to Work scheme for the Arts & Cultural Sector on their website – https://disabilityarts.online/atw/.  Business Wales is also available to help individuals with completing tender bids – Get Support Business Wales.

If you require the application form in large font or braille then this can be provided for you.

We can offer Access Support for the interview and for the delivery of the project.  This will be discussed with individual applicants when invited to interview.

 

The briefs and details of how to apply for each Associate Artist Residency Opportunity are below:

Brief 1: Secretive Species: Light and Sound Project

Based in Swansea with Adder Action at Amphibian and Reptile Conservation (ARC), Buglife, and The Bat Conservation Trust, this residency will take an immersive delve into our target species and their habitats, considering their relationship with light and sound and exploring contrasts between light and dark/shade and natural/artificial light, thus shedding light on hidden worlds, perils and opportunities for our species.

Full brief and details of how to apply here:

ASSOCIATE_ARTISTS_RESIDENCY_BRIEF_1

Brief 2: Secretive Species: Life on the Fringe Project

Based in Swansea with Adder Action at Amphibian and Reptile Conservation (ARC), Buglife, and The Bat Conservation Trust, this residency explores how many of the species targeted by the Secretive Species projects are living on the edge, between and within urban and rural/natural landscapes and what this means for these species, their multi-taxa habitats and the communities live alongside them.

Full brief and details of how to apply here:

ASSOCIATE_ARTISTS_RESIDENCY_BRIEF_2

Brief 3: TI.M.E (Tlysau Mynydd Eryri) Project

Centring in Eryri with Plantlife, this residency aims to bring alpine species into sharp focus as enigmatic treasures and to explore the relationship between the mountains, their species, and the diverse communities that live within them or within sight of them, in particular young people, people from the LGBTQIA+ community and/or those working at and visiting Ysbyty Gwynedd, the main hospital in Bangor, in exploring how access to the mountain environment, or lack thereof, can impact physical and mental health.  The ability to communicate in Welsh is essential for this post.

Full brief and details of how to apply here:

ASSOCIATE_ARTISTS_RESIDENCY_BRIEF_3

Brief 4: Symbolic Species Project

Based in locations in North West Wales, with the RSPB, this residency will engage children and young people in exploring some of the 17 endangered species, and their habitats, across the Llŷn peninsula and Isle of Anglesey.  The ability to communicate in Welsh is essential for this post.

Full brief and details of how to apply here:

ASSOCIATE_ARTISTS_RESIDENCY_BRIEF_4

Brief 5: We are Water: Interconnections Across Land & Sea Project

Based in the Pen Llŷn a’r Sarnau area with Gwynedd Council Environment Directorate and Marine Conservation Society (MCSUK), this residency aims to engage people in thinking about the relationship between terrestrial and marine and how their behaviours impact on water quality and, in turn, the habitats of endangered marine species.  The ability to communicate in Welsh is essential for this post.

Full brief and details of how to apply here:

ASSOCIATE ARTISTS RESIDENCY BRIEF 5

Brief 6: Brilliant Bryophytes Project

Based with Plantlife in two locations in Powys – in the north of the county, in and around Newtown, and in the south of the county in and around Rhayader, this residency aims to engage people in re-thinking the way we see species that are small in scale and unremarkable at first glance, highlighting the importance of bryophytes within our ecosystem while also conserving and preserving sites in which these rare species thrive, in order to aid recovery through innovative, transformative and creative solutions that include local people in these vital conversations.

Full brief and details of how to apply here:

ASSOCIATE_ARTISTS_RESIDENCY_BRIEF_6

Brief 7: Barbastelle Bat Project

Based with the Barbastelle Bat Project in Pembrokeshire, working with the Vincent Wildlife Trust (VWT), this residency aims to change the perceptions of dead, decaying, and damaged matter as something that should be cleared away and to highlight its potential to create habitats that fuel and sustain life, in particular those of the Barbastelle Bat.

Full brief and details of how to apply here:

ASSOCIATE_ARTISTS_RESIDENCY_BRIEF_7

Brief 8: Scarce Yellow Sally Project

Based in locations in and around Wrexham in North East Wales with Buglife, this residency aims to bring rarely seen underwater life ‘to the surface’, exploring ways in which people may relate to the story of the tiny aquatic Scarce Yellow Sally, and drawing attention to how we may collectively impact positively on river restoration and improvements in water quality to save these, and other creatures.

Full brief and details of how to apply here:

ASSOCIATE_ARTISTS_RESIDENCY_BRIEF_8

Brief 9: High Brown Fritillary Project

Based with the High Brown Fritillary Project working with Butterfly Conservation in Ogmore and Old Castle Downs & Alun Valley, Vale of Glamorgan, this residency explores the stories and use of the site by different user groups both historically and today and raises awareness of the impact of human behaviour on the site, the High Brown Fritillary and its habitat. We are particularly interested in exploring the oral histories of the longstanding farming communities in the area and connecting with and encouraging a broader diversity of people to access the site for wellbeing, in particular those with mental health concerns and harder to reach groups.

Full brief and details of how to apply here:

ASSOCIATE ARTISTS RESIDENCY BRIEF 9

Brief 10: Shrill Carder Bee Project

Working in collaboration with the Bumblebee Conservation Trust, in and close to the three Shrill Carder Bee population centres in Pembrokeshire, The Gwent Levels, and Kenfig, Bridgend, this residency aims to engage people in thinking about the importance of connected flower-rich habitats for the benefit of both pollinators like the Shrill Carder Bee and humans.

Full brief and details of how to apply here:

ASSOCIATE_ARTISTS_RESIDENCY_BRIEF_10

 

For queries and further information, if you have any further queries about this opportunity, please contact: Sarah Pace at Addo’s South Wales Office at sarah@addocreative.com or Tracy Simpson at Addo’s North Wales Office at tracy@addocreative.com 

 


 

 

 

 

 

 

 

A gefnogir gan | Supported by:

 

Partneriaeth Natur am Byth | The Natur am Byth Partnership: