Call for Creative Practitioners for Redevelopment of Maindee Library, Newport

Budget: Creative Practitioner Design & Consultation Fee of up to £13,000 +VAT. There is a £45,000 +VAT budget to implement creative/design interventions, based on capital works budget of £121,000 + VAT. 
Deadline for Applications is Midnight 23 April 2017
Interviews scheduled for 09 May 2017
Commission is expected to run from May 2017 – March 2018
Maindee Unlimited are inviting applications from Creative Practitioners (artists/designers/architects, as individuals, studios, partnerships or group practices) to work on a project within Maindee Library, a volunteer-run community space on the eastern side of Newport city centre. The commission is to work with the Maindee Library Working Group and other key stakeholders to identify, prioritise and develop creative/design solutions and oversee their implementation towards the renovation and improvement of the library building as a flexible and creative space for community use.
For full brief and details of how to apply: Maindee-Library-BRIEF_Llyfrgell-Maendy-BRÎFF.
Plans of the library are available here as PDFs or here as a DWG file.
The planning application documents for the change of use of the library, which includes further plans and consultation/decision reports can be viewed on ‘planning applications’ page of Newport City Council’s website here, using Application Ref. 16/0235.

This commission is part of Finding Maindee – a three-year project supported by the Arts Council of Wales’ Ideas: People: Places strategic programme, which aims to test new models of regeneration and collaboration through the arts. The project is part-funded by the Esmee Fairbairn Foundation, Garfield Weston Charitable Trust, the Landfill Tax Credit Scheme through Newport City Council and others. The project will be managed by Maindee Unlimited. The Creative Practitoner’s appointement is being managed by curatorial agency Addo.

 


 

Galw am Ymarferwyr Creadigol i Ailwampio Llyfrgell Maendy, Casnewydd

Cyllideb: Ffi Dylunio ac Ymgynghori Ymarferwr Creadigol hyd at £13,000 +TAW. Mae cyllideb o £45,000 +TAW i roi ar waith ymyriadau creadigol/dylunio, ar sail cyllideb gwaith cyfalaf o £121,000 + TAW.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Canol Nos 23 Ebrill 2017
Dylai’r cyfweliadau fod ar 09 Mai 2017
Disgwylir i’r comisiwn fod ar fynd o fis Mai 2017 tan fis Mawrth 2018
Mae Maindee Unlimited yn gwahodd ceisiadau gan Ymarferwyr Creadigol (artistiaid/dylunwyr/penseiri, yn unigolion, stiwdios, partneriaethau neu bractisau grŵp) i weithio ar brosiect yn Llyfrgell Maendy, man cymuned a redir yn wirfoddol ar ochr ddwyreiniol canol dinas Casnewydd. Gweithio gyda Gweithlu Llyfrgell Maendy yw’r comisiwn, a rhanddeiliaid allweddol eraill, i ganfod, blaenoriaethu a datblygu atebion creadigol/dylunio ac i oruchwylio eu rhoi ar waith tuag at adnewyddu a gwella adeiladau’r llyfrgell yn fan hyblyg a chreadigol at ddefnydd y gymuned.
I weld brîff llawn a manylion sut i wneud cais: Maindee-Library-BRIEF_Llyfrgell-Maendy-BRÎFF.
Mae cynlluniau’r llyfrgell ar gael yma fel ffeiliau PDF neu yma fel ffeil DWG.
Mae dogfennau cais cynllunio newid defnydd y llyfrgell, sy’n cynnwys rhagor o gynlluniau ac adroddiadau ymgynghori/penderfynu, i’w gweld ar dudalen ‘ceisiadau cynllunio’ gwefan Cyngor Dinas Casnewydd yma, gan ddefnyddio Cyfeirnod Cais 16/0235.

Rhan o Ddarganfod Maendy yw’r comisiwn hwn -prosiect tair blynedd a gefnogir gan raglen strategol Cyngor Celfyddydau Cymru Syniadau: Pobl: Mannau, a chanddi’n amcan rhoi ar brawf fodelau newydd adfywio a chydweithredu drwy’r celfyddydau. Cyllidir y prosiect yn rhannol gan Sefydliad Esmee Fairbairn, Ymddiriedolaeth Elusennol Garfield Weston, y Cynllun Credyd Treth Tirlenwi drwy Gyngor Dinas Casnewydd ac eraill. Rheolir y prosiect gan Maindee Unlimited. Rheolir swydd yr Ymarferwr Creadigol gan yr asiantaeth guradurol Addo.