We are pleased to announce that the first pair of resident artists have begin their month-long residencies at the forge at Gefail yr Ynys, Caernarfon. Pairing a local Gwynedd-based artist with someone from further afield the residencies involve skills exchange and an opportunity to work with local groups and communities.

   

David Snoo Wilson

David’s practice is that of bronze casting with a travelling foundry working with arts groups, festivals, and others to create bells and other sculptural objects. David’s work often includes public metal pouring and live events as part of his work with www.oreandingot.com. Specializing in the development of mobile foundries David is also the art foundry manager at the Royal College of Art.

‘This residency gives me the opportunity to work with a local artist group and the wider community over a one month period by having an exchange of ideas and skills.’

 

Llŷr Erddyn Davies

Llŷr is based in Caernarfon and is a founding member of CARN (Caernarfon Artist Regional Network). Trained in Fine Art at Falmouth University his practice includes bronze casting work for exhibition and commission.

During his residency he hopes to make work and research copper pouring towards a project he is making in association with artist Manon Awst for the National Eisteddfod.

Llyr says ‘This residency gives me the opportunity to experiment and research copper casting for my work for the Eisteddfod whilst working alongside experienced metal workers’. 

About Gefail yr Ynys

As part of the Stamp project, Gefail yr Ynys has been opened up as a community forge space with a wide range of other metalworking uses. In collaboration with local makers, artists and just the plain curious, the space offers opportunities to get involved which includes short-courses, artist in residences, talks and seminars and open access sessions.

STAMP is funded by the Ideas People Places initiative by Arts Council of Wales, Cyngor Gwynedd and Welsh government. For more information about the Ideas People Places fund please see:-

http://www.celf.cymru/celf-yng-nghymru/ysbrydoli/cynnal/creu-cymunedau-cyfoes

Wax Modeling for Bronze Casting

Workshops 6:30 – 9pm Tuesday 18th, Wednesday 19th and Thursday 20th

10-4pm Saturday 22nd Drop-in sessions but please RSVP

Artists in residence David Snoo Wilson and Llyr Erddyn Davies lead sessions in making small objects in wax. They will then cast your object in metal using the ‘lost wax’ process at a public metal pouring.

Public Bronze Pouring

6-9pm Friday 4th August

Watch molten bronze being poured directly from the crucible. A chance to see the lost wax process objects made into metal forms.

Charge: Objects made in bronze will be charged at £30 per kilo with a minimum charge of £15

All welcome

The full programme can be downloaded here Gefail yr Ynys_a3_folded_ flyer_july_reduced_size

 

Rydym yn falch o gyhoeddi bod yn cael y pâr cyntaf o artistiaid preswyl yn dechrau eu cyfnodau preswyl mis o hyd yn yr efail yn gefail yr Ynys, Caernarfon.  Mae paru artist lleol o Wynedd â rhywun sy’n byw yn bell i ffwrdd mewn cyfnod preswyl yn golygu cyfnewid sgiliau a chyfle i weithio gyda grwpiau a chymunedau lleol.

David Snoo Wilson

Castio efydd yw arfer David; gyda’i ffowndri deithiol mae’n gweithio gyda gwyliau a grwpiau celf, ac eraill i greu clychau a gwrthrychau eraill wedi’u cerflunio. Bydd gwaith David yn aml yn cynnwys tywallt metel yn gyhoeddus a digwyddiadau byw fel rhan o’i waith gyda www.oreandingot.com. David yw rheolwr y ffowndri gelf yn y Coleg Celf Brenhinol ac mae’n arbenigo mewn datblygu ffowndrïau teithiol.

‘Mae’r cyfnod preswyl hwn yn rhoi cyfle i mi weithio gyda grŵp o artistiaid lleol a’r gymuned ehangach dros gyfnod o fis trwy gyfnewid syniadau a sgiliau’.

  

Llŷr Erddyn Davies

Yng Nghaernarfon mae Llŷr yn gweithio ac mae’n aelod sefydlol o CARN (Rhwydwaith Adfywio Celfyddydau Caernarfon). Derbyniodd ei hyfforddiant mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Falmouth ac mae ei arfer yn cynnwys gwaith castio efydd ar gyfer arddangosfeydd a chomisiynau.

Yn ystod ei gyfnod preswyl, mae’n gobeithio ymchwilio i dywallt copr a chreu gwaith ar gyfer prosiect ar y cyd gyda’r artist Manon Awst ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol

Meddai Llŷr ‘Mae’r cyfnod preswyl hwn yn rhoi cyfle i mi arbrofi ac ymchwilio i gastio copr ar gyfer fy ngwaith at yr Eisteddfod tra yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr metel profiadol’.

Ynghylch Gefail yr Ynys

Fel rhan o brosiect Stamp, agorwyd Gefail yr Ynys fel gofod gefail gymunedol gydag ystod eang o ddefnyddiau gwaith metel eraill. Mewn cydweithrediad ag artistiaid a gwneuthurwyr lleol, a’r sawl sydd yn ymddiddori, mae’r lle yn cynnig cyfleoedd i fod yn rhan ohono gan gynnwys cyrsiau byrion, artistiaid preswyl, sgyrsiau a seminarau ynghyd â sesiynau mynediad agored.

Menter Creu Cymunedau Cyfoes Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Gwynedd a llywodraeth Cymru sy’n ariannu STAMP. Am fwy o wybodaeth ynghylch cronfa Creu Cymunedau Cyfoes, ewch i:-

http://www.celf.cymru/celf-yng-nghymru/ysbrydoli/cynnal/creu-cymunedau-cyfoes

Modelu ar gyfer Castio mewn Efydd

Gweithdai 6:30 – 9yh Dydd Mawrth 18fed, Mercher 19eg a Iau 20fed

10-4yp Sadwrn 22ain Sesiynau disgyn i mewn ond cysylltwch i gadw lle.

Bydd yr Artistiaid Preswyl David Snoo Wilson a Llyr Erddyn Davies yn arwain sesiynau er mwyn creu cerfluniau bach mewn cwyr. Byddan nhw’n castio eich cerflun mewn efydd gan ddefnyddio’r dull ‘cwyr coll’ mewn digwyddiad tywallt metel cyhoeddus.

Digwyddiad Tywallt Efydd Cyhoeddus

Gwener Awst 4ydd

Gwyliwch efydd toddedig yn cael ei dywallt o’r pair. Cyfle i weld cerfluniau efydd yn cael eu creu o’r broses cwyr coll.

Tal: Bydd eitemau wedi eu creu mewn efydd yn costio £30 y kilo – bydd lleiafswm o £15 yn cael ei godi.

Croeso i bawb

Gall y raglan lawn ar gael i’w lawrlwytho yma Gefail yr Ynys_a3_folded_ flyer_july_reduced_size