Artists and creative professionals are invited to attend Creative Ponty? – a morning of discussions and networking around how existing, emerging and potential creative networks and hubs may positively impact on Pontypridd and the surrounding area. Short presentations will be followed by an open discussion.

Anne Hayes, Arts & Creative Industries Manager, Rhondda Cynon Taff County Borough Council will summarise the partnership work currently being undertaken by the Council towards developing the creative economy of Pontypridd and the county region.

James Doyle-Roberts, Co-Founder, Citrus Arts will discuss managing a collaborative creative practice based in Pontypridd with a national and international reach and what resources, networks and facilities do and could help to facilitate this process.

Kayleigh Mcleod, Creative Economy Project Officer, Cardiff University will present some of the outcomes from Creative Cardiff – a new action research project and network, which seeks to connect people working in any creative organisation, business or job in the Cardiff region to collaborate and share ideas and in doing so encourage more innovation and creativity across the city.

Sarah Pace & Tracy Simpson, Co-Directors, Addo will share the concept of Addo Studio – a proposal for a sustainable creative space in Pontypridd for not-for-profit organisations and creative professionals with a social conscience, critical and collaborative practices.

Wendy York, Chief Executive Officer, Artis Community provides an update eon developments for the Court House, Muni Arts Centre and YMCA and how these evolving creative spaces will help to nurture a creative Ponty.

Attendees, as well as those who can’t make it, are invited to submit an A3 poster summarising your practice, interest or organisation – together these will help us to visually map the creative activity and potential in the area. Please submit your posters in advance for printing to sarah@addocreative.com or bring them along on the day.

This event is part of Rhondda Cynon Taff County Borough Council Arts Development Team’s Artist Exchange Series, which seeks to bring artists & creative professionals living and working in Rhondda Cynon Taff to share and critique work, ideas and best practice. It also forms part of Addo’s NOW WE ARE FIVE, an organisational development project funded by Addo, Arts Council of Wales and Rhondda Cynon Taff County Borough Council.

 


 

Gwahoddir artistiaid a gweithwyr proffesiynol creadigol i ddod i ‘Ponty Greadigol?’ – Bore o drafodaethau a rhwydweithio ynghylch sut gallai rhwydweithiau a chanolgylchau creadigol, sy’n bod ac sy’n dod ar glawr, effeithio’n gadarnhaol ar Bontypridd a’r cylch. Bydd pum cyflwyniad byr wedyn trafodaeth agored.

Anne Hayes, Rheolwr y Celfyddydau a’r Diwydiannau Creadigol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a fydd yn amlinellu’r gwaith partneriaeth mae’r Cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd tuag at ddatblygu economi greadigol Pontypridd a rhanbarth y sir (www.artsdev.rct-arts.org).

James Doyle-Roberts, Cyd-Sylfaenydd, Citrus Arts a fydd yn trafod rheoli practis creadigol cydweithredol â’i ganolfan ym Mhontypridd a chanddo gyrraedd cenedlaethol a rhyngwladol a beth mae adnoddau, rhwydweithiau a chyfleusterau yn ei wneud a beth allent ei wneud yn gymorth i hwyluso’r broses hon (www.citrusarts.squarespace.com).

Kayleigh Mcleod, Swyddog Prosiectau Economi Greadigol, Prifysgol Caerdydd a fydd yn cyflwyno rhai o ganlyniadau Caerdydd Greadigol – prosiect a rhwydwaith ymchwil weithredu newydd, sydd â’i fryd ar gysylltu pobl sy’n gweithio mewn unrhyw gorff, busnes neu swydd greadigol yn ardal Caerdydd i gydweithredu a rhannu syniadau a thrwy hynny hybu mwy o arloesi a chreadigedd ledled y ddinas (www.creativecardiff.org.uk).

Sarah Pace a Tracy Simpson, Cyd-Gyfarwyddwyr, Addo corff celfyddydau gweledol, a fydd yn rhannu’r cysyniad o Stiwdio Addo – cynnig i greu man creadigol cynaliadwy ym Mhontypridd i gyrff dielw a gweithwyr proffesiynol creadigol a chanddo gydwybod gymdeithasol ac arferion cydweithredol, beirniadol (www.addocreative.com).

Wendy York, Prif Swyddog Gweithredol, Cymuned Artis a fydd yn rhoi newyddion diweddaraf datblygiadau Celfyddydau Ponty, Yr Hen Lys, Canolfan Celfyddydau Muni a’r YMCA a sut bydd y mannau a’r rhwydweithiau creadigol hyn sydd ar eu twf yn gymorth i feithrin Ponty greadigol (www.artiscommunity.org.uk).

Fe’ch gwahoddir chi hefyd i gyflwyno poster A3 yn crynhoi eich arfer, eich diddordeb neu’ch corff – gyda’i gilydd bydd y rhain yn gymorth i ni lunio map gweledol o’r gweithgaredd a’r potensial creadigol yn yr ardal. Cyflwynwch eich posteri ymlaen llaw i’w hargraffu, i sarah@addocreative.com neu ddod â nhw gyda chi ar y diwrnod.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Gyfres Cyfnewid Artistiaid Tîm Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sydd â’i bryd ar ddwyn ynghyd artistiaid a gweithwyr proffesiynol creadigol sy’n byw ac yn gweithio yn RCT i rannu gwaith, syniadau ac arfer gorau. Mae hefyd yn rhan o fenter NOW WE ARE FIVE Addo, prosiect datblygu sefydliadol a gyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

 

Creative_Ponty?_Invite_Flyer_A4_Rev_5