Mae Maes Parcio Creadigol yn brosiect ar y cyd rhwng Addo, Tŷ Pawb, KIM Inspire, a’r artist arweiniol Marja Bonada.
Rydym yn ail-ddychmygu’r ardal to fflat uwchben prif oriel Tŷ Pawb – rhan segur o faes parcio aml-lawr – fel man gwyrdd arbrofol lle gall artistiaid, cymunedau a sefydliadau ddatblygu posibiliadau creadigol gyda’i gilydd.
Mae hyn wedi cynnwys lloches/gweithdy awyr agored a lle storio, wedi’i ddylunio a’i wneud gyda mewnbwn gan yr artist John Merrill – gydag aelodau grŵp KIM Inspire yn ymwneud â phob agwedd ar y gwaith adeiladu. Mae datblygu sgiliau newydd, ochr yn ochr â magu hyder, yn agwedd allweddol ar y rhaglen a hyd yma mae’r cyfranogwyr hefyd wedi rhoi cynnig ar wehyddu helyg, mosaigau a serameg.
Mae hyn wedi cynnwys lloches/gweithdy awyr agored a lle storio, wedi’i ddylunio a’i wneud gyda mewnbwn gan yr artist John Merrill – gydag aelodau grŵp KIM Inspire yn ymwneud â phob agwedd ar y gwaith adeiladu. Mae datblygu sgiliau newydd, ochr yn ochr â magu hyder, yn agwedd allweddol ar y rhaglen a hyd yma mae’r cyfranogwyr hefyd wedi rhoi cynnig ar wehyddu helyg, mosaigau a serameg.
Bydd potensial i gynnal digwyddiadau a chynulliadau anffurfiol, hyfforddiant a gweithdai creadigol -dod i bob pwrpas yn ‘Lle Celf Ddefnyddiol’ awyr agored.
Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i greu rhaglen sy’n cwmpasu arferion creadigol a dysgu gweithredol er mwyn i grwpiau cymunedol eraill a’r cyhoedd yn ehangach allu elwa. Mae hyn wedi cynnwys ymweld â gerddi eraill yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i wreiddio dysgu a datblygu partneriaethau, comisiynu artistiaid i wella’r gofod gyda gweithgaredd, perfformiad a gwaith celf corfforol.
Mae’r prosiect yn derbyn cyllid Cyswllt a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.
Maes Parcio Creadigol (Creative Car Park) is a collaborative project between Addo, Tŷ Pawb, KIM Inspire, and lead artist Marja Bonada.
We are reimagining the flat roof area above Tŷ Pawb’s main gallery – a disused part of multi-storey car park – as an experimental green space where artists, communities and organisations can develop creative possibilities together.
This has included a shelter/outdoor workshop and storage space, designed and made with input from artist John Merrill – with KIM Inspire group members involved in all aspects of the construction. Developing new skills, alongside building confidence, is a key aspect of the programme and thus far the participants have also tried their hand at willow weaving, mosaics and ceramics.
There will be potential to host events and informal gatherings, training and creative workshops – effectively becoming an outdoor ‘Lle Celf Ddefnyddiol’ (Useful Art Space).
We will be working with our partners to create a programme that encompasses creative practices and action learning in order that other community groups and the wider public can benefit. This has included visiting other garden spaces regionally and national to imbed learning and develop partnerships, commissioning artists to enhance the space with activity, performance and physical artwork.
The project is in receipt of Arts Council Wales Connect & Flourish funding.
Recent Comments