CYFLE CYFNOD PRESWYL SEGONTIUM – DYDDIAD CAU ESTYNEDIG
Prosiect cydweithredol rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yw’r cyfnod preswyl hwn.
Bwrsari: £12,000 am 6 mis, yn cychwyn fis Mai 2014
Rydym yn gwahodd ceisiadau oddi wrth artistiaid â dull cydweithredol/cyfranogol o fynd ati i ymgymryd â’r cyfnod preswyl hwn yn Segontium, seflion Caer Rufeinig yng Nghaernarfon.
Nod y cyfnod preswyl yw cynnal archwiliad yn Segontium, gan ddod â hanes y safle yn weledol i gynulleidfa fodern trwy ymchwilio ac arfer celfyddydol.
Y cynnig, felly, yw cyflogi artist am gyfnod o chwe mis i weithio gyda staff Cadw, grwpiau a chymdeithasau lleol ac ymwelwyr er mwyn archwilio ac ymchwilio rhai o’r syniadau hyn.
Deilliannau
Mae deilliannau perthnasol y cyfnod preswyl yn agored a gallen nhw fod ar ffurf gweithiau celf dros dro neu lled barhaol. Gellir lleoli gwaith yn y dref neu ar safleoedd eraill.
Yr Artist
Rhywun sydd â diddordeb mewn gweithio mewn safle hanesyddol gyda diddordeb mewn archaeoleg, yr amgylchedd, hanes neu gartograffi, gyda phrofiad blaenorol o weithio gydag eraill i ddatblygu syniadau, fydd yr artist. Ethos o arfer cydweithredol ac ymgysylltu sydd bennaf.
Mae’r cyfle yn agored i Artistiaid Rhyngwladol ac Artistiaid y DU. Fodd bynnag, mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol. Felly bydd croeso i geisiadau cydweithredol; fodd bynnag, rhaid i chi ddangos yn eglur eich strategaeth ar gyfer cyflenwi trwy gyfrwng y Gymraeg.
Talu
Bydd yr artist a ddewisir yn derbyn rhandaliadau fel tâl, y manylion i’w cytuno ar adeg y penodiad. Mae ffi’r artist hwn, sef £12,000, yn cynnwys yr holl gostau teithio a chostau byw. Gall staff gynorthwyo â dod o hyd i lety lleol.
Mae cyllideb ychwanegol o £3,000 am ddeunyddiau ar gael.
Sut i Wneud Cais:
I wneud cais am y cyfnod preswyl hwn, anfonwch yr wybodaeth a ganlyn at tracy@addocreative.com erbyn 28ain MawrthSegontium_Artists_Residency_Final_Extended 2014:
- Hyd at 10 delwedd digidol mewn dogfen PDF neu gyflwyniad PowerPoint, neu Showreel hyd ar 10 munud o hyd. Dylid rhifo’r holl waith gan gynnwys pennawd, dyddiad, mesuriadau a chyfrwng;
- CV cyfredol;
- Llythyr cais byr yn amlinellu pam eich bod â diddordeb yn y cyfle hwn, a sut mae’n berthnasol i’ch arfer chi;
- Dau lythyr yn cefnogi.
Manylion Cyswllt:
Ymholiadau a gwybodaeth bellach: os oes gynnoch chi ymholiadau pellach am y cyfle hwn, cysylltwch â:
Tracy Simpson, Addo, 07890 203218, tracy@addocreative.com
CLICIWCH YMA I LAWRLEYTHO’R BRIFF PDF
SEGONTIUM RESIDENCY OPPORTUNITY – EXTENDED DEADLINE
This residency is a collaborative project between the Arts Council of Wales and Cadw, the Welsh Government’s historic environment service.
Bursary: £12,000 for 6 months starting in May 2014
We are inviting applications from artists with a collaborative/participative approach to undertake this residency based at Segontium, the remains of a Roman Fort in Caernarfon.
The residency seeks to investigate Segontium, making visible the history of the site to a modern audience via artistic enquiry and practice.
The proposal is therefore to engage an artist for a six-month period to work with Cadw staff, local groups & associations and visitors in order to investigate and research some of these ideas.
Outcomes
The material outcomes of the residency are open and may take the form of temporary or semi-permanent artworks. Work may be sited in the town or at other sites.
The Artist
The artist will be someone interested in working within a historical site with an interest in archaeology, environment, history or cartography with previous experience of working with others to develop ideas. An ethos of collaborative practice and engagement is uppermost.
This opportunity is open to UK and International Artists. However, the ability to communicate in Welsh is essential. As such, collaborative applications are welcome, however you must clearly demonstrate your strategy for delivery through the Welsh language.
Payment
The selected artist will be paid in installments to be agreed on appointment. This £12,000 artists fee is inclusive of all travel costs and living expenses. Assistance finding local accommodation is available from staff.
An additional budget of £3,000 for materials is available.
How to Apply:
To apply for this residency, please send the following information to tracy@addocreative.com by 28th March 2014:
- Up to 10 digital images in a PDF document or a Powerpoint presentation, or a 10-minute (max) showreel. All work should be numbered and include, title, date, dimension and media;
- An up-to-date CV;
- A brief letter of application that broadly outlines why you are interested in this opportunity and how it is relevant to your practice;
- Two letters of support.
Contact Details: For queries and further information, If you have any further queries about this opportunity, please contact: Tracy Simpson, Addo, 07890 203218, tracy@addocreative.com
Recent Comments