Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol: Galwad am Ymarferwyr Creadigol

 

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, The Glebe, Llandeilo Ferwallt, Abertawe, SA3 3JP

 

Cyllideb: £5,000 | Hyd y prosiect: Ionawr – Mai 2021 | Dyddiad Cau Ymgeisio: 05 Ionawr 2021

 

Mae Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt yn gwahodd ceisiadau gan Ymarferwyr Creadigol (unigolion / partneriaethau / stiwdios / sefydliadau) i weithio gyda’u Pwyllgor Iechyd a Lles disgyblion (hyd at 25 o ddisgyblion, merched a bechgyn, 11 – 16 oed, sy’n cynnwys grŵp ffocws o ddisgyblion Blwyddyn 7 ) sy’n archwilio sut y gall gweithio’n greadigol trwy’r celfyddydau gynorthwyo archwiliad disgyblion Blwyddyn 7 i faterion bugeiliol, gan weithio tuag at ddeall eu hiechyd a’u lles yn well. Bydd hyn yn ein helpu fel ysgol i archwilio’r buddion posibl i ddisgyblion o ddulliau creadigol o gyflawni’r cwricwlwm iechyd bugeiliol a lles. Bydd hyn, yn ei dro, yn ein helpu i gyflawni ein Cynllun Gwella Ysgolion gyda’r nod o ddatblygu iechyd a lles ymhellach. Mae meysydd y cwricwlwm bugeiliol y gellir eu harchwilio trwy’r prosiect yn cynnwys iechyd meddwl a lles, cwsg a sgriniau, goddefgarwch, parch at ei gilydd, a diogelwch ar-lein.

 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan Ymarferwyr Creadigol sydd ag arbenigedd mewn unrhyw un neu gyfuniad o’r cyfryngau canlynol: gwneud printiau (traddodiadol / cyfoes), 3D (cerflunio / cerameg) neu gyfryngau digidol (ffotograffiaeth / ffilm / animeiddio / artist sain). Fodd bynnag, yn unol â chyfyngiadau Covid-19, bydd y sesiynau gyda disgyblion yn cael eu cyflwyno ar-lein, naill ai trwy gyswllt byw i ystafell ddosbarth, cyfarfodydd MS Teams neu drwy gynnwys wedi’i recordio a gynhyrchir gan yr Ymarferydd Creadigol. Felly, rhaid i’r Ymarferydd Creadigol fod yn gyffyrddus, yn hyderus ac yn fedrus wrth ddefnyddio technoleg ddigidol a chyfathrebu trwy fideo-gynadledda ar-lein (sef MS Teams).

 

Byddem yn disgwyl i’r ymarferydd creadigol penodedig weithio gyda staff addysgu (sef y Pennaeth Celf), a’r Pwyllgor Iechyd a Lles sy’n cynnwys yr holl grwpiau blwyddyn a grŵp ffocws o ddisgyblion Blwyddyn 7, i nodi ffocws a chyfeiriad y prosiect.

 

Brîff a manylion sut i wneud cais ar gael yma.

 


Mwy am y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol

Mae’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn darparu cyfleoedd i ysgolion archwilio dulliau creadigol newydd a chyffrous o addysgu a dysgu ar draws y cwricwlwm, gan eu cefnogi i fynd i’r afael â materion, blaenoriaethau datblygu pwysig ac anghenion dysgwyr. Ei nod yw datblygu creadigrwydd, dyheadau a chyflawniadau pobl ifanc yng Nghymru, gan agor mwy o gyfleoedd ar gyfer eu dyfodol. Mae’n cefnogi arloesedd a datblygu partneriaethau tymor hir rhwng ysgolion a gweithwyr proffesiynol creadigol. Ariennir y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. I gael mwy o wybodaeth, ewch i https://creativelearning.arts.wales/cy/dysgu-creadigol/amdanom/cynllun-ysgolion-creadigol-arweiniol