Cyllid: £5000 Cyfnod y prosiect: Chwefror – Ebrill 2022 Dyddiad Cau Ceisiadau: Tachwedd 26fed 2021

 

Rydym yn gwahodd ceisiadau gan Ymarferwyr Creadigol (croesewir unigolion a phartneriaethau) sydd ag arfer mewn paentio neu ddarlunio. I weithio gyda disgyblion cynradd (tua deg disgybl blwyddyn 3-6) ac uwchradd (tua phymtheg o fyfyrwyr Blwyddyn 7-9) myfyrwyr sydd wedi eu nodi fel mwy galluog a thalentog yn y celfyddydau mynegiannol. Nod y prosiect yw gwella sgiliau cymhwysedd a chyfathrebu celfyddydau gweledol disgyblion ar draws grwpiau blynyddoedd 3 –

FFIOEDD, AMSERLEN A CHYLLIDEB

Mae cyllideb gyffredinol o £5,250 ar gyfer y prosiect i gynnwys yr holl ffioedd, chostau teithio rhesymol treuliau rhesymol. Mae’r cytundeb am oddeutu 20 Diwrnod o waith ar raddfa o £250/dydd, gan gynnwys TAW. Mae cyllideb arwahan o tua £600 ar gyfer deunyddiau, i gael ei gytuno a’r ysgol ar ôl penodi.

Bydd y prosiect yn digwydd rhwng Chwefror – Ebrill 2022. Ar hyn o bryd ein bwriad ydy i’r ymarferwyr gyflwyno’r sesiynau’n fyw yn yr ysgol. Fodd bynnag, mae’n dibynnu ar unrhyw gyfyngiadau Covid-19 a fydd mewn grym ar adeg y cyflwyno. Hefyd, efallai y bydd gofyn i’r grwpiau blwyddyn ffurfio swigod ar wahân petai cyngor Covid 19 yn newid. os y bydd a bod rhaid eu cadw ar wahân. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd/wyr llwyddiannus gyfrannu i’r cynllunio amlinellol cychwynnol ar gyfer y prosiect cyn Chwefror 2022.

PROSES DETHOL

Bydd hyd at 4 ymgeisydd yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ar sail y ceisiadau a dderbynnir. Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 30ain Tachwedd 2021. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod ar gael ar gyfer cyfweliad ar y dyddiad hwn.

Brîff a manylion sut i wneud cais ar gael yma Lead creative schools 2022