Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol: Galw am Ymarferwyr Creadigol
Ysgol Gynradd Waunceirch, Heol Dŵr y Felin, Castell Nedd, SA10 7RW

Ffi: £4,000 | Hyd y Prosiect: Hydref 2018 – Mai 2019 | Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 16 Medi 2018

Am y drydedd flwyddyn mae Addo yn gweithio fel Asiant Creadigol i Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n galw am geisiadau gan Ymarferwyr Creadigol am brosiect yn Ysgol Gynradd Waunceirch.

Rydym yn gwahodd ceisiadau ganYmarferwyr Creadigol (unigolion / partneriaethau / stiwdios / cyrff) i weithio gyda grŵp o hyd at 28 o ddisgyblion Blwyddyn 3 (merched a bechgyn, 7-8 oed) i ddatblygu eu Sgiliau Cymhwyster Digidol (yn unol â’r fframwaith cymhwyster digidol) ac i chwilio ffyrdd o ddefnyddio’r amryw rolau sydd ynghlwm â gwneud ffilmiau er mwyn dwyn yn eu blaenau sgiliau ymgysylltu a gwrando’r disgyblion, gan ganolbwyntio ar lythrennedd. Ymatebion y disgyblion i daith ysgol sydd yn yr arfaeth, i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym mis Ionawr 2019, fydd yn bwydo’r prosiect, ynghyd â meddyliau am fro hanesyddol a chyfoes yrysgol.

Yn y fan hon mae’r brîff yn gymharol agored, i roi lle i Ymarferwyr Creadigol weithio ar y cyd â dau Athro Blwyddyn 3 a’u dysgwyr i ddatblygu’r prosiect a’i ganlyniadau’n fanylach.

Bydd yr Ymarferwr neu’r Ymarferwyr Creadigol yn gweithio gyda’r athrawon a’r disgyblion i ddatblygu a chyflenwi adeiladwaith, cynnwys a chanlyniadau manwl y prosiect, yn ogystal â ffyrdd creadigol o ddogfennu a gwerthuso’r prosiect a dathlu’r hyn a gyflawnwyd.

Mae’r athrawon cyfranogol yn ymddiddori mewn datblygu sgiliau digidol newydd a rhannu eu dysgu drwy hyd a lled yr ysgol. Disgwylir i’r Ymarferwr Creadigol gefnogi’r broses hon drwy rannu gwybodaeth a darparu hyfforddiant sgiliau i’r athrawon yn rhan o’r prosiect.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan Ymarferwyr Creadigol (gan gynnwys unigolion, partneriaethau, timau, cyrff neu stiwdios) a chanddyn nhw arbenigedd y maes gwneud ffilmiau, ymroddiad i ddatblygu rhagoriaeth mewn ymarfer creadigol, a thueddiad dengar ac ysbrydoledig o ran gweithio gyda phobl eraill.

Brîff a manylion sut i wneud cais ar gael yma.

 


Rhagor ynghylch y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol

Mae’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn cynnig cyfleoedd i ysgolion chwilio cyrchddulliau creadigol newydd a chyffrous o ran addysgu a dysgu ar draws y cwricwlwm, yn eu cefnogi i fynd i’r afael ag achosion, blaenoriaethau datblygu pwysig ac anghenion dysgwyr. Ei amcan yw datblygu creadigedd, uchelgeisiau a gorchestion pobl ifanc yng Nghymru, yn gyfrwng agor mwy o gyfleoedd iddynt yn y dyfodol. Mae’n cefnogi arloesi a meithrin partneriaethau hirdymor rhwng ysgolion a phobl broffesiynol greadigol. Cyllidir y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.arts.wales/what-we-do/creative-learning