Stondin Farchnad Newydd Tonypandy yn Herio Canfyddiadau o Anabledd yn y Rhondda Ganol

Stondin farchnad fel na welsoch erioed o’r blaen. Neu ynteu canolfan celfyddydau lleia’r byd sydd yma?   Gan yr Artist Chris Tally Evans y crëwyd ‘14 Equal Street’ sy’n brosiect dihafal yn dwyn ynghyd y ddau syniad yma i herio canfyddiadau o bobl anabl mewn ffordd gyffrous a difyr.   Comisiynwyd Chris gan Addo, y corff yn y celfyddydau sydd â’i ganolfan ym Mhontypridd, a bu’n gweithio gyda grwpiau yn y Rhondda Ganol gan gynnwys Cromlin Dysg Llwynypia, Cadlanciau Môr y Rhondda, Bywyd Awtistiaeth a Swyddfa Gyflogi Elite i gynhyrchu celfweithiau newydd, gan gynnwys ffilmiau byrion, posteri, mewnosodion a sgrifennu newydd.   Bydd y rhain ar ddangos yn stondin farchnad 14 Equal Street ym Marchnad Tonypandy yn ei lleoliad newydd dros dro yn y Maes Parcio Uchaf bob dydd Gwener ym mis Gorffennaf 2018.

Tarwch heibio a gweld a gwrando ar y celfwaith, trafod syniadau â’r stondinwyr, ateb pynciau llosg y dydd a bod yn barod am ambell i beth annisgwyl a gwesteion arbennig.

Meddai’r Artist Chris Tally Evans,

A minnau’n anabl, fe fu’n anrhydedd ac yn bleser pur gweithio gydag amrywiaeth mor eang o bobl hyfryd yng nghymuned glòs y Rhondda Ganol ac rwy’n edrych ymlaen yn frwd at gyflwyno ein stondin farchnad 14 Equal Street i’r gymuned ehangach er mwyn parhau’r sgwrs. Cofiwch ein bod ni yn y farchnad i bawb!

Ariannwyd Addo gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i ddatblygu prosiect celf oedd yn herio canfyddiadau o anabledd yn y Rhondda Ganol yn rhan o Raglen Fourteen, sydd â’i bryd ar ymestyn cyrraedd a threftadaeth y Gemau Olympaidd, Paralympaidd a Gemau’r Gymanwlad, yn cysylltu pobl a chymunedau ac yn llesáu.   Roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig i rywun anabl arwain y prosiect felly dyma weithio ar y cyd â Chelfyddydau Anabledd Cymru, Tîm Datblygu’r Celfyddydau Rhondda Cynon Taf a Chymunedau’n Gyntaf Rhondda Ganol i gomisiynu preswyliad artist chwe mis i artist anabl.   Penodwyd yr artist Chris Tally Evans ym mis Ionawr ac ers hynny bu’n gweithio gyda grwpiau cymuned ac unigolion sy’n byw ac yn gweithio yn y Rhondda Ganol.   Canlyniad y preswyliad yw stondin farchnad ‘14 Equal Street’ sy’n cynnig cyfle i fwy o bobl ymhél â thrafod a herio canfyddiadau o anabledd yn y cylch.

Bydd Stondin Farchnad ’14 Equal Street’ a’r Artist Chris Tally Evans ym Marchnad dydd Gwener Tonypandy yn ei lleoliad newydd dros dro yn y Maes Parcio Uchaf ar 13 Gorffennaf, 20 Gorffennaf a 27 Gorffennaf.

 

Ynghylch Rhaglen #FOURTEEN

Mae rhaglen Fourteen yn ymestyn cyrraedd a threftadaeth y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a Gemau’r Gymanwlad, yn cysylltu pobl a chymunedau ac yn llesáu. Mae ethos ac ysbryd menter Fourteen dan arweiniad cymunedau a’i hamcan yw cynyddu cymryd rhan mewn un neu fwy o’r gweithgareddau canlynol:

  • Gweithredu cymdeithasol a gwirfoddoli
  • Chwaraeon a gweithgaredd corfforol ar lawr gwlad
  • Gweithgaredd diwylliannol a’r celfyddydau
  • Arweinyddiaeth ieuenctid a datblygiad personol

 

Rheolir rhaglen Fourteen yn y Rhondda Ganol gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Cewch wybod rhagor yma: http://www.cfiw.org.uk/eng/grants/initiatives/FOURTEEN

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Pace, Cyd-gyfarwyddwr, Addo, sarah@addocreative.com

 

Cyllidir y prosiect gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru drwy Raglen Fourteen gydag arian cyfatebol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm a chyda chefnogaeth gan Gelfyddydau Anabledd Cymru, Tîm Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chymunedau’n Gyntaf y Rhondda Ganol.