Caiff detholiad o 33 o straeon caru rhamantus o Gymru ei lansio yn Sefydliad Glowyr Oakdale yn Sain Ffagan, Caerdydd am 14:00 ar 16 Rhagfyr 2015. 

Mae’r straeon byrion hyn wedi cael eu hysgrifennu gan ysgrifenwyr proffesiynol ac amatur fel rhan o brosiect cyfranogol o’r enw ‘A Fall into Grace’ a gynhaliwyd yn Aberdâr. 

Gwahoddwyd artistiaid, gweithwyr CBS Rhondda Cynon Taf, grwpiau ysgrifenwyr lleol ac unigolion i ysgrifennu eu cyfarwyddiadau, eu straeon caru dychmygol neu fywgraffyddol, dan arweiniad yr ysgrifenwyr Cymreig enwog, Rachel Trezise a Phil Carradice, a’r artist a’r ysgrifennwr o Ferlin, Erica Böhr.

Bydd argraffiad cyfyngedig fersiwn clawr caled arbennig o’r llyfr ar werth, ynghyd â’r fersiwn clawr papur. 

Roedd y prosiect, a oedd yn syniad gan yr artist Jackie Chettur, wedi’i ddatblygu a’i arwain ganddi. Meddai Jackie

Mae gen i ddiddordeb yn yr hyn a allai fod yn elfennau tra nodweddiadol o stori garu, y fformiwla gyfarwydd honno sy’n galluogi dau berson ar y dudalen i ddod at ei gilydd.  Ond mae manylion cyfoethog ac amrywiol bywydau penodol a sefyllfaoedd unigol wedi’u plethu drwy’r straeon hyn wrth iddynt gael eu hadrodd.

Mae ‘A Fall into Grace’ yn dathlu’r syniad bod gan straeon ddimensiynau cymdeithasol pwysig. Mae’n canolbwyntio ar thema gyffredinol cariad rhamantus fel ffordd o wneud profiad a dychymyg unigol ac a rennir yn weladwy. Mae hefyd yn talu teyrnged i dreftadaeth argraffu Aberdâr.Mae ethos argraffu ar alw a chydweithredol y llyfr yn adlewyrchu uchelgeisiau argraffwyr Aberdâr gynt, yr oedd eu harfer yn gysylltiedig â ‘mudiad diwylliannol’ a oedd yn dathlu diwylliant Cymru ac yn ceisio grymuso pobl leol.Er enghraifft, yn un o’i erthyglau golygyddol gyntaf, dywedodd y papur newydd wythnosol, Y Gwladgarwr (1858), ei fod yn benderfynol o

gefnogi’r rhai a oedd yn caru rhyddid dinesig a chrefyddol gartref a ledled y byd, – i ymladd yr holldrais ac anghyfiawnder – i ganmol llenyddiaeth, gwybodaeth, celf, gwyddoniaeth a rhinwedd.

I barhau â’r etifeddiaeth argraffu hon, mae gwasg gerfwedd yn cael ei rhoi i  Ymddiriedolaeth Amgueddfa ac Oriel Gelf Cwm Cynon i’w defnyddio gan y gymuned ar ôl i’r prosiect gael ei gwblhau. Mae cyfranogwyr y prosiect hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithdai gwneud printiau gyda Jackie Chettur a’r artist Lucy Bateman uwchben The Little Garden Shop yn Aberdâr a hefyd yn The PrintHaus yng Nghaerdydd.Bydd rhai o’r printiau hyn ar werth yn y digwyddiad lansio.

Meddai Gail Lancaster, un o’r cyfranogwyr,

Roeddwn yr hysbyseb ar gyfer y prosiect, a oedd yn dechrau gydag ysgrifennu creadigol, wedi ennyn fy chwilfrydedd, oherwydd y tro diwethaf i mi fod yn ymwneud ag adrodd straeon oedd pan oeddwn yn yr ysgol, flynyddoedd lawer yn ôl… Rwyf wir wedi mwynhau profi’r sgiliau newydd a gynigiwyd, o ysgrifennu i argraffu neu’r heriau an oedd ynghlwm ag ymarfer fy stori i baratoi ar gyfer perfformio […]. Mae’r bobl rwyf wedi cwrdd â nhw ar y daith hon wedi bod yn llawn ysbrydoliaeth, yn ddiddorol ac yn gyfeillgar ac yn bennaf oll, yn llawn annogaeth ac er bod ganddynt eu straeon eu hunain i’w hadrodd, maent oll wedi bod yn wrandawyr penigamp.

Am fwy o wybodaeth: Sarah Pace, Cyd-gyfarwyddwr, Addo / sarah@addocreative.com / 07715 102517

-DIWEDD- 

NODYN I’R GOLYGYDDION

Ar gael i gyfweld â why: Jackie Chettur, Artist, Sarah Pace, Cyd-gyfarwyddwr Addo, a Cyfranogwyr yn y digwyddiad lansio.

Gwybodaeth am ‘A Fall into Grace’  Mae ‘A Fall into Grace’ yn brosiect celf cyfranogol sy’n dathlu’r syniad bod gan straeon ddimensiynau cymdeithasol pwysig.  Mae’n canolbwyntio ar thema gyffredinol cariad rhamantus fel ffordd o wneud profiad a dychymyg unigol ac a rennir yn weladwy.

Mae’r prosiect a gynhelir yn Aberdâr, yn parhau ag archwiliad Jackie o brofiad lliwgar, ffrwydrol ac emosiynol syrthio mewn cariad, profiad sy’n llawn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau. Mae’r prosiect hyd yn hyn wedi cynnwys cyfres o weithdai ysgrifennu a gynhelir gan ysgrifenwyr proffesiynol (gan gynnwys yr awdures Gymreig Rachael Trezise, Phil Carradice ac Erica Böhr) a gweithdai argraffu mewn cydweithrediad â The PrintHaus, Caerdydd a’r artist o Aberdâr, Lucy Bateman ar gyfer unigolion a grwpiau cymunedol â diddordeb, gan gynnwys ysgrifenwyr, grwpiau ac artistiaid lleol.

Canlyniad y prosiect hwn fydd cyhoeddiad argraffu ar alw: detholiad o’r profiad cyffredinol ac unigol o syrthio mewn cariad, sy’n archwilio’r lle rhwng y dychmygol a bywyd go iawn wrth eu hailadrodd. Mae’n defnyddio’r potensial creadigol sy’n gynhenid mewn llyfrau a gaiff eu hargraffu un ar y tro, gan greu’r posibilrwydd ar gyfer cyhoeddiad pen-agored a fydd yn tyfu wrth i’r straeon gael eu casglu. Caiff llyfr yr artist ei lansio yn Aberdâr ar 12 Rhagfyr 2015, ac mae’n talu teyrnged i dreftadaeth argraffu Aberdâr.

Ein Harianwyr a’n Cefnogwyr Ariennir ‘A Fall into Grace’ drwy grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru, grant gan Sefydliad Teulu Ashley a reolir gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ac arian gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel rhan o Gynllun Adfywio Aberdâr. Cafwyd yr arian ar gyfer Cynllun Adfywio Aberdâr gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, rhaglen Blaenau’r Cymoedd ac Arian Cyfatebol a Dargedir, ynghyd ag adnoddau ariannol y cyngor, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a chyfraniadau’r sector preifat. Cefnogir y prosiect hefyd gan Gymuned Artis, Datblygu’r Celfyddydau – Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Llenyddiaeth Cymru, Give It A NameThe PrintHaus a The Little Garden Shop, Aberdâr.

Gwybodaeth am Jackie Chettur Mae gwaith Jackie Chettur yn dameidiog, yn rhamantus yn ymwneud â naratif, wedi’i saernio’n gariadlon ac yn aml mor lliwgar ag y gall hithau ei wneud. Mae’n defnyddio ffotograffiaeth, testun, crefft, cyfranogiad a pherfformiad i greu gwaith sydd wedi’i ysbrydoli’n bennaf gan ddiwylliant poblogaidd.

Gwybodaeth am Addo  Mae Addo’n sefydliad nid er elw sy’n datblygu, yn curadu ac yn rheoli prosiectau ar gyfer y cyhoedd. Fe’i sefydlwyd gan y Cyd-gynhyrchwyr Sarah Pace a Tracy Simpson yn 2011. Mae Sarah Pace, Cyd-gynhyrchydd Addo, wedi bod yn gweithio gyda’r prif artist, Jackie Chettur, i gynhyrchu’r prosiect, ei ddatblygu a chodi arian ar ei gyfer. Mae gan Addo arfer dynamig a sefydledig o gychwyn, comisiynu a chynhyrchu amrywiaeth eang o brosiectau celf gyfoes yng Nghymru a’r tu hwnt. Drwy weithio gydag ac ar ran artistiaid, grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol a phartneiriaid o’r sectorau preifat a chyhoeddus, maent wedi curadu, rheoli a chynhyrchu: gweithiau celf cyhoeddus a rhaglenni parhaol a thros dro; artistiaid preswyl; dogfennau strategaethau a fframwaith; astudiaethau ymchwil, gwerthuso a dichonoldeb; ac amrywiaeth o arddangosfeydd a digwyddiadau mewn mannau celf a mannau eraill.

 

AFiG_Logo_Lock-up copy2