Am yr ail flwyddyn mae Addo’n gweithio’n Asiantau Creadigol i dros Ysgolion yng Nghymru, yn rhan o Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n gwahodd galwadau gan Ymarferwyr Creadigol ar gyfer prosiectau yn Ysgol Glan-y-Môr (Porth Tywyn), Ysgol Bro Dinefwr (Llandeilo), Ysgol Gynradd Pen-bre (Pen-bre) ac Ysgol Llandrillo-yn-Rhos (Bae Colwyn).  Isod mae rhagor o wybodaeth ynghylch pob cyfle a sut i wneud cais.

 


Cyfle 1: Ysgol Glan-y-Môr

Ysgol Glan-y-Môr, Heol Elfed, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, SA16 0AL

Ffi: £5,000 | Hyd y Prosiect: Gorffennaf 2017 – Ebrill 2018 | Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 09 Gorffennaf 2017

Mae Ysgol Glan-y-Môr yn gwahodd ceisiadau gan Ymarferwyr Creadigol (unigolion / partneriaethau / stiwdios / cyrff) i weithio gyda grw^p hyd at bymtheg o ddisgyblion Blwyddyn 8 (merched a bechgyn, 12-13 oed Cyfnod Allweddol 3) ynghlwm â thema Dinasyddiaeth Fyd-eang i feithrin sgiliau allweddol y bydd eu hangen ar y disgyblion ar gyfer Bagloriaeth Cymru, sef: cymhwysedd digidol (Fframwaith Cymhwysedd Digidol), datrys problemau a meddwl beirniadol, a chreadigedd ac arloesi. Yn y fan hon mae’r brîff yn gymharol agored, i roi lle i Ymarferwyr Creadigol weithio ar y cyd â’r Athro Celfyddyd a’r Athro Drama a’u dysgwyr i ddatblygu’r prosiect a’i ganlyniadau’n fanylach.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan Ymarferwyr Creadigol (gan gynnwys unigolion, partneriaethau, timau, cyrff neu stiwdios) mewn unrhyw ddisgyblaeth ond rhaid wrth bob Ymarferwr Creadigol neu aelod o’r Tîm Ymarferwyr Creadigol gefndir defnyddio technoleg / cyfryngau digidol yn greadigol (e.e. delwedd symudol, ffilm, animeiddio, datblygu apps, technoleg cerddoriaeth, graffeg, datblygu gemau cyfrifiadurol, cynhyrchu cyfryngau creadigol / digidol). Rhaid i bob Ymarferwr Creadigol ddangos ymroddiad i ddatblygu rhagoriaeth mewn ymarfer creadigol a dawn ennyn diddordeb ac ysbrydoli pan fyddant yn gweithio gydag eraill.

Ffi’r Ymarferwr Creadigol yw £5,000 am ugain Niwrnod o waith yn ôl cyfradd o £250 y diwrnod, y gellir ei rhannu rhwng un neu ragor o ymarferwyr. Rydym yn croesawu cyrchddulliau tîm. Mae cyllid dros ben o £2,000 ar gyfer treuliau teithio rhesymol i’r Ymarferwr Creadigol, deunyddiau a threuliau eraill (e.e. teithiau) tuag at y prosiect, y cytunir arnynt â’r ysgol pan benodir yr Ymarferwr.

I gael rhagor o wybodaeth a manylion ynghylch sut i wneud cais, llwythwch i lawr y brîff yma.

 


Cyfle 2: Ysgol Bro Dinefwr

Ysgol Bro Dinefwr, Heol Myrddin, Ffairfach, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6PE

Ffi: £5,000 | Hyd y Prosiect: Gorffennaf 2017 – Ebrill 2018 | Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 06 Gorffennaf 2017

Mae Ysgol Bro Dinefwr yn gwahodd ceisiadau gan Ymarferwyr Creadigol (unigolion / partneriaethau / stiwdios / sefydliadau) i weithio gyda grŵp o hyd at ugain disgybl o Flwyddyn 8 (merched a bechgyn, oed 12-13 yng Nghyfnod Allweddol 3) i ddatblygu canlyniad(au) digidol fel ymateb i faterion / anghenion yn y gymuned/ysgol/amgylchedd. Nod y prosiect yw gwella hyder a chymhwysiad y disgyblion gyda chyfryngau digidol mewn perthynas â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Ar yr adeg hon, mae’r brîff yn gymharol agored fel y gall yr Ymarferwyr Creadigol cydweithio gyda’r Athro TG a’r Athro Addysg Grefyddol a’u dysgwyr er mwyn datblygu’r prosiect a’i ganlyniadau’n fanylach.

Rydym yn croesawu Ymarferw(y)r Creadigol (gan gynnwys unigolion, partneriaethau, timau, sefydliadau neu stiwdios) o unrhyw ddisgyblaeth ond rhaid bod gan yr Ymarferwr Creadigol neu aelod o Dîm yr Ymarferwyr Creadigol gefndir o ddefnyddio technoleg/cyfryngau digidol yn greadigol (e.e. symud delwedd, ffilm, animeiddiad, datblygu cymwysiadau, technoleg cerddoriaeth, graffeg, datblygu gêm gyfrifiadurol, cynhyrchu cyfryngau’n greadigol/digidol). Rhaid i’r Ymarferw(y)r Creadigol arddangos ymrwymiad i ddatblygu rhagoriaeth mewn ymarfer creadigol ac agwedd ddeniadol ac ysbrydoledig wrth weithio gydag eraill.

Ffi’r Ymarferwr Creadigol yw £5,000 am 20 Diwrnod o waith ar raddfa £250/dydd, y gellir ei rannu rhwng un neu ddau ymarferwr. Rydym yn croesawu dull tîm o gyflwyno. Mae cyllid ychwanegol o £2,000 ar gyfer costau teithio rhesymol yr Ymarferwr Creadigol, deunyddiau a chostau eraill (e.e. teithiau) ar gyfer y prosiect, y cytunir arno gyda’r ysgol yn dilyn y penodiad.

Am wybodaeth pellach a manylion sut i ymgeisio, llwythwch i lawr y brîff yma.

 


Cyfle 3: Pembrey Primary School

Ysgol Gynradd Penbre ,Heol Ashburnham ,Penbre, SA16 0TP

Ffi: £3,000 | Hyd y prosiect : Gorffennaf 2017 – Ebrill 2018 | Dyddiad Cau Ceisiadau :  13 Gorffennaf 2017

Rydym yn gwahodd ceisiadau oddi wrth ymarferwyr creadigol (unigolion/ partneriaethau/ stiwdios/ sefydliadau) i weithio gyda grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 2, hyd at 26 o ferched a bechgyn 6-7 mlwydd oed yn y Cyfnod Sylfaen. Byddwch yn datblygu eu Sgiliau Cymhwysedd Digidol (Fframwaith Cymhwysedd Digidol) ac yn archwilio ffyrdd o ddefnyddio technoleg ddigidol / cyfryngau er mwn datblygu sgiliau gwrando’r disgyblion, gyda’r ffocws ar lythrennedd. Bydd y prosiect yn ffurfio rhan o ffocws cwricwlwm y dosbarth ar gyfer Tymor y Gwanwyn, ‘darganfod y gymdogaeth’.

Ar hyn o bryd, mae’r briff yn gymharol agored i ganiatáu Ymarferwyr Creadigol i gydweithio gyda dwy o Athrawon y Cyfnod Sylfaen (un ohonynt yn gydgysylltydd TGCh yr ysgol a’r llall yn Gydlynydd Datblygiad Creadigol), a’u dysgwyr i ddatblygu’r prosiect a’i ganlyniadau mewn rhagor o fanylder.  Croesawn geisiadau gan Ymarferwyr Creadigol (gan gynnwys unigolion, partneriaethau, timau, sefydliadau neu stiwdios) gydag arbenigedd mewn defnyddio technoleg / cyfryngau digidol mewn modd creadigol (ee delweddau symudol, ffilm, animeiddio, datblygu app, technoleg cerddoriaeth, graffeg, datblygu gemau cyfrifiadurol , cynhyrchu cyfryngau digidol / creadigol). Mae’n rhaid bod yr Ymarferydd Creadigol yn dangos ymrwymiad i ddatblygu rhagoriaeth mewn arfer creadigol a ganddynt ddawn ddiddorol ac ysbrydoledig i weithio gydag eraill.

Ffi’r Ymarferwr Creadigol yw £ 3,000 i dalu am yr holl ffioedd, treuliau a deunyddiau rhesymol. Mae’r contract ar gyfer 12 Diwrnod o waith ar gyfradd o £ 250 y dydd, gellir eu rhannu rhwng dau neu fwy o ymarferwyr. Mae yna gyllideb ychwanegol o £ 1,250 ar gyfer costau teithio rhesymol i’r Ymarferydd Creadigol ac ar gyfer deunyddiau a threuliau eraill tuag at y prosiect, a chaiff ei gytuno gyda’r ysgol wrth benodi.

Am ragor o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais, lawrlwythwch y briff yma.

 


Cyfle 4: Ysgol Llandrillo-yn-Rhos

Llandrillo-yn-Rhos County Primary, Elwy Road, Colwyn Bay LL28 4LX

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan

 


Rhagor ynghylch y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol

Mae’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn cynnig cyfleoedd i ysgolion chwilio cyrchddulliau creadigol newydd a chyffrous o ran addysgu a dysgu ar draws y cwricwlwm, yn eu cefnogi i fynd i’r afael ag achosion, blaenoriaethau datblygu pwysig ac anghenion dysgwyr. Ei amcan yw datblygu creadigedd, uchelgeisiau a gorchestion pobl ifanc yng Nghymru, yn gyfrwng agor mwy o gyfleoedd iddynt yn y dyfodol. Mae’n cefnogi arloesi a meithrin partneriaethau hirdymor rhwng ysgolion a phobl broffesiynol greadigol. Cyllidir y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

 

Cyllidir y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, a chyllid cyfatebol gan bob ysgol sy’n cyfranogi.

 

logo_lock-up