We are inviting applications from Wales-based artists with an interest in developing an idea for the co-creation of a situated contemporary art project towards social change in Wales with mentoring support from Addo.

Fee per artist: £6,250 (for 25 days work at £250 per day, inclusive of travel costs & reasonable disbursements) + £500 for materials & expenses

Deadline for applications: 06 December 2020, midnight (GMT)

Interviews: 16 December 2020, via Zoom.

This mentored research & development programme will run from 04 January – 31 March 2021.

There are four places available, which are open to professional artists who either produce work in the public realm as part of their existing practice or are interested in developing their practice in this area.  The opportunity is open to artists at any stage in their career.

The full brief to artists with further details on how to apply is available here.

We held an online ‘How to Apply’ workshop 10-11:30am on 25/11/2020 to offer a chance to ask questions about the programme and application process.  A copy of the Powerpoint presentation from the workshop is available as a PDF here.

Please email commissions@addocreative.com if you have any queries about the brief and how to apply.

This programme is offered by Addo and is funded by the Arts Council of Wales’ Wales Cultural Recovery Fund – COVID-19 Support for Organisations.

 


Rydym yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid sydd â’u cartref yng Nghymru sy’n ymddiddori mewn datblygu syniad ar gyfer creu ar y cyd brosiect yn y celfyddydau cyfoes, a chanddo’n fan cychwyn sefyllfa neu gyd-destun, tuag at newid cymdeithasol yng Nghymru gyda chefnogaeth mentora gan Addo.

Y ffi i bob artist: £6,250 (am 25 niwrnod o waith am £250 y diwrnod, yn cynnwys costau teithio a threuliau rhesymol) + £500 ar gyfer deunyddiau a threuliau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 06 Rhagfyr 2020, canol nos (GMT)

Cyfweliadau: 16 Rhagfyr 2020, drwy Zoom. 

Bydd y rhaglen ymchwil a datblygu yma, wedi’i mentora, ar fynd o 04 Ionawr – 31 Mawrth 2021.

Mae pedwar lle ar gael, sy’n agored i artistiaid proffesiynol sydd naill ai’n cynhyrchu gwaith yn y byd cyhoeddus yn rhan o’u harfer sydd eisoes yn bod neu sy’n ymddiddori mewn datblygu eu harfer yn y maes yma.  Mae’r cyfle’n agored i artistiaid ar unrhyw gyfnod ar eu gyrfa.

Mae’r cyfarwyddyd llawn i artistiaid ynghyd â rhagor o fanylion ynghylch sut i wneud cais ar gael yma.

Fe wnaethom gynnal gweithdy ar-lein ‘Sut i Wneud Cais’ 10-11: 30am ar y 25/11/2020 i gynnig cyfle i ofyn cwestiynau am y rhaglen a’r broses ymgeisio.  Mae copi o’r cyflwyniad Powerpoint o’r gweithdy ar gael ar ffurf PDF yma.

E-bostiwch commissions@addocreative.com os oes gennych unrhyw ymholiadau am y brîff a sut i wneud cais.

Cynigir y rhaglen yma gan Addo ac fe’i cyllidir gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy ei Gronfa Adfer Diwylliannol Cymru – COVID-19 Cefnogaeth i Sefydliadau.